Mae Menter Perllannau Gogledd Ddwyrain Cymru:

  • Yn darparu ffrwythau lleol ffres
  • Yn cynnig mwynhad blas y tymor
  • Yn cynnig ffrwythau organig
  • Yn gwarchod amrywiaeth ffrwythau traddodiadol Gogledd Orllewin Cymru
  • Yn gwneud yn siŵr fod y coed ffrwythau yma ar gael i’r cymunedau ble mae eu gwreiddiau
  • Yn ceisio bod o fudd i’r amgylchedd lleol a’r amgylchedd byd-eang
  • Yn cynorthwyo i greu perllannau newydd ac adfywio hen berllannau i sicrhau gwarchodaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • Yn cynorthwyo i droi’n ôl y duedd a welodd golli 90% o berllannau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ystod y 60 mlynedd olaf

Rydych yn cefnogi hyn i gyd drwy brynu ffrwythau lleol a choed ffrwythau.

Beth yw Ffrwythau Gogledd Ddwyrain Cymru?

Ffrwythau lleol ffres a dyfodd ym Mherllannau Gogledd Ddwyrain Cymru, wedi’u peillio yn y gwanwyn gan y gwenyn sy’n rhan o’r amrywiaeth anferthol o fywyd gwyllt a gynhelir gan ein perllannau, wedi’u haeddfedu gan yr haul, a heb eu casglu nes eu bod yn gwbl aeddfed ac yn barod i deithio yr ychydig filltiroedd i’r farchnad – dyma yw ffrwythau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Wyddech chi?

Bod ffrwythau’r archfarchnad fel rheol wedi’u casglu cyn iddyn nhw fod yn aeddfed, wedi teithio miloedd o filltiroedd, a’r amser storio wedi ei ymestyn drwy ddefnyddio cemegau.


Tyfwyr Perllannau Gogledd Ddwyrain Cymru

Valid XHTML and CSS for Accessibility | Website Design ©2006 Worldspan Marketing