Croeso i’r Berllan Rithwir.
Rydyn ni eisoes wedi sefydlu pum perllan ysgol yn yr ardal leol. Mae’r ymdeimlad o falchder yn enfawr wrth i’r plentyn blannu’r goeden a meddwl am ei dyfodol. Mae’n hawdd cynnal y berllan - mae tocio’n syml iawn a chynigir hyfforddiant fel rhan o’r pecyn addysg. Oddi fewn i’r Ysgol a grwpiau cymunedol mae pob plentyn wedi plannu a gofalu am goeden benodol yn eu perllan a bydd lluniau o’r coed yn cael eu llwytho i fyny i’r berllan rithwir wrth iddynt dyfu.
Bydd y berllan rithwir yn galluogi plant i gadw mewn cysylltiad, ble bynnag y byddent yn symud iddo yn y byd, gyda choed a blannwyd ganddynt yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’u gweld yn tyfu, yn blodeuo a ffrwytho.
Fel y bydd y berllan rithwir yn tyfu bydd mwy i’w wneud a mwy i’w archwilio i bob oedran gan gynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r berllan rithwir neu os ydych chi am blannu perllan neu ychydig o goed ffrwythau yn yr ysgol neu mewn ardal gymunedol yna cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
Ffrwythau Perllannau Cymreig
Tyfwyr Perllannau Gogledd Ddwyrain Cymru