Bwyd a Ryseitiau
Un o fwynderau’r amrywiaethau lleol yw’r ystod eang o’r ffyrdd y gellir eu defnyddio - mae rhai o’r afalau’n dal i gadw eu siâp ar ôl iddynt gael eu pobi, mae eraill yn chwalu’n syryp gwlanog godidog tra mae eraill yn aros yn gyfan, crimp a phinc ac yn gofyn am gael eu cynnwys mewn salad - a dim ond afalau yw'r rheini....
Cyswllt â’n gorffennol ac yn aml gydag atsain arbennig neu â chysylltiad â pherthnasau arbennig, mae ryseitiau’n rhan o’r traddodiad tyfu ffrwythau rydym ni’n awyddus i’w weld yn cael ei achub ac yn wir ei adfywio drwy arbrofi a rhannu syniadau.
Os oes genych rysáit lleol neu un a drosglwyddwyd drwy’r cenedlaethau a chwithau am ei rannu gyda ni, wnewch chi ei e-bostio i ni os gwelwch yn dda?
Ffrwythau Perllannau Cymreig
Tyfwyr Perllannau Gogledd Ddwyrain Cymru