Ryseitiau
Un o fwynderau’r amrywiaethau lleol yw’r ystod eang o’r ffyrdd y gellir eu defnyddio - mae rhai o’r afalau’n dal i gadw eu siâp ar ôl iddynt gael eu pobi, mae eraill yn chwalu’n syryp gwlanog godidog tra mae eraill yn aros yn gyfan, crimp a phinc ac yn gofyn am gael eu cynnwys mewn salad - a dim ond afalau yw'r rheini.
Cyswllt â’n gorffennol ac yn aml gydag atsain arbennig neu â chysylltiad â pherthnasau arbennig, mae ryseitiau’n rhan o’r traddodiad tyfu ffrwythau rydym ni’n awyddus i’w weld yn cael ei achub ac yn wir ei adfywio drwy arbrofi a rhannu syniadau.
Os oes genych rysáit lleol neu un a drosglwyddwyd drwy’r cenedlaethau a chithau am ei rannu gyda ni, wnewch chi ei e-bostio i ni os gwelwch yn dda?
Yn y cyfamser dyma gwpwl o ryseitiau i chi ddechrau.
Myffin Afal Sbeislyd
Gwneud 18
- 18owns (510g) blawd codi
- 3llwy de sinamon, ½ llwy de nytmeg, ½ llwy de sinsir
- 6owns (170g) siwgr
- 12owns (340g) afal wedi’i dorri’n fân – lleol os yn bosibl!
- 10owns hylifol (300ml)llefrith
- 3owns (85g) ymenyn Cymreig, wedi’i doddi
- 6owns (170g) resins/ syltanas
- 6 llwy fwrdd siwgr brown meddal ar gyfer yr haenen uchaf
- Twymo’r popty ymlaen llaw i180-200 C
- Gogrwn y blawd, sbeisys a’r siwgr at ei gilydd
- Tywallt y llefrith, ychwanegu’r afal ac yn olaf y menyn wedi’i doddi mewn sosban wahanol
- Tywallt y gymysgedd hon i’r cymysgedd o flawd, sbeis a siwgr
- Troi nes bod y ddau gymysgedd wedi’u cyfuno ac ychwanegu ffrwythau sych wrth droi tua’r diwedd
- Defnyddiwch lwy i’w roi mewn tuniau gan daenellu'r haen o siwgr ar ei ben
- Pobi am tua 20 – 25 munud nes ei fod yn frown golau
- Gadewch iddo oeri
Ffrwythau Perllannau Cymreig
Fruit Growing Initiative